Adnoddau addysgol

Dyma gyfle i weld a lawrlwytho adnoddau addysgol sydd wedi’u cynhyrchu yn rhan o Ecostructure, gan gynnwys fideos, taflenni ffeithiau, canllawiau adnabod a’n llythyrau newyddion ynghylch arfer gorau.


ADNOD 1

Fideos

 

Gallwch wylio pob un o’n fideos ar ein sianel YouTube . Gwyliwch rai o’r uchafbwyntiau isod i ddechrau, yna ewch i YouTube i weld pob un o’r fideos a gynhyrchwyd yn ystod y prosiect.

Gwella Bioamrywiaeth Strwythurau Artiffisial Morol


Gwella bioamrywiaeth strwythurau artiffisial morol o ddiddordeb cynyddol, gyda hwb polisi ac awydd diwydiant i ymgorffori seilwaith sy’n gyfeillgar i fioamrywiaeth mewn datblygiadau morol ac arfordirol. Gan ddilyn dulliau a ddatblygwyd gan y prosiect Tystiolaeth Cadwraeth , fe wnaethom grynhoi’r dystiolaeth ddogfennol ar gyfer effeithiolrwydd camau cadwraeth y gellir eu cymryd i wella bioamrywiaeth adeileddau artiffisial morol. Edrychwch ar y fideo esboniwr animeiddiedig isod i ddysgu mwy!

Edrychwch ar yr adnodd ar-lein yma neu lawrlwythwch y crynodeb llawn yma .


Fideos gan ymchwilwyr

Dyma gyfle i chi ddod i adnabod ymchwilwyr Ecostructure a’r gwaith a gyflawnwyd ganddynt, yn y fideos byr hyn sy’n ymdrin ag amryw agweddau ar y prosiect.

Gweld y rhestr chwarae lawn gyda phob un o'r deg fideo yma .


Cynhadledd Derfynol Ecostructure

Dyma gyfle i chi wylio’r cyflwyniadau yn ein Cynhadledd Derfynol ym mis Mehefin 2022, sy’n crynhoi ein gweithgareddau ymchwil a’n canfyddiadau yn ystod y prosiect..

Gweler y rhestr chwarae lawn yma .


Fideos 360°

Dyma gyfle i chi wylio fideos sy’n defnyddio technoleg ymgolli 360° i archwilio arfordir Môr Iwerddon, dan y dŵr ac uwchben y dŵr..

Gweler y rhestr chwarae lawn yma .

 
ADNOD 2

Taflenni ffeithiau a chanllawiau adnabod

Creodd Ecostructure daflenni ffeithiau, canllawiau maes, a byrddau gwybodaeth i esbonio eco-beirianneg a bioddiogelwch i amrywiaeth o gynulleidfaoedd. Dyluniwyd a chynhyrchwyd gan dîm cyfathrebu Ecostructure (Amy Dozier a Kathrin Kopke o Goleg Prifysgol Cork).

TAFLEN FFEITHIAU

Rhywogaethau goresgynnol arfordirol

Un o’r bygythiadau byd-eang mwyaf i fioamrywiaeth ac ecosystemau yw’r ffaith bod rhywogaethau estron goresgynnol yn cael eu cyflwyno ac yn ymledu. Mae rhywogaethau goresgynnol yn tueddu i ymledu i’r graddau lle maent yn bygwth gallu bywyd gwyllt brodorol i oroesi neu lle maent yn niweidio’r amgylchedd, yr economi neu iechyd pobl. Rydym wedi creu taflen ffeithiau i’ch helpu i ddysgu mwy am rywogaethau goresgynnol morol, a dysgu mwy am yr hyn yr ydym yn ymchwilio iddo a’r hyn y gallwch chi ei wneud i atal y rhywogaethau goresgynnol hyn rhag ymledu. Beth am argraffu’r daflen ffeithiau ar gyfer eich myfyrwyr, eich sefydliad neu’ch busnes, neu’i darllen eich hun, drwy glicio ar y botymau isod.


  • Addas ar gyfer ysgolion a dosbarthiadau
  • Gwych ar gyfer gweithdai

Saesneg Cymraeg

TAFLEN FFEITHIAU

DNA amgylcheddol a barcodio DNA

Mae llawer o ymchwil Ecostructure yn golygu defnyddio DNA amgylcheddol a barcodio DNA. Gallwch ddysgu am y ddau gysyniad hyn, ac am sut yr ydym yn eu defnyddio, yn y pecyn hwn o daflenni ffeithiau. Maent yn addas i oedolion ifanc ac oedolion sy’n awyddus i ddysgu mwy am sut y caiff geneteg ei defnyddio i adnabod rhywogaethau estron goresgynnol morol. Gallwch lawrlwytho’r taflenni ffeithiau yn Gymraeg ac yn Saesneg isod.


  • Addas ar gyfer myfyrwyr oed coleg

Saesneg Cymraeg

CANLLAWIAU ADNABOD

Canllaw i adnabod malwod ar lannau’r môr

Buodd Ecostructure yn cynnal menter gwyddoniaeth y bobl er mwyn cyfrannu achosion o weld malwod ar hyd glannau Môr Iwerddon. Yn rhan o’r Arolwg hwn o Falwod ar Lannau’r Môr, gwnaethom greu canllaw defnyddiol i’w ddefnyddio yn y maes, er mwyn eich helpu i adnabod malwod cyffredin a welir ar lannau creigiog. Defnyddiwch y canllaw hwn, y mae modd ei argraffu, i adnabod y gragen foch, y top môr porffor a’r top môr danheddog.


  • Gwych i deuluoedd a myfyrwyr

Saesneg Cymraeg

BWRDD GWYBODAETH

Byrddau Gwybodaeth ar Eco-beirianneg

Gosodwyd byrddau gwybodaeth gennym i esbonio ac i gyd-fynd â gosodiadau eco-beirianyddol arbrofol o amgylch Iwerddon (Kilmore Quay, Co. Wexford a Malahide Marine) a Chymru (Cei Newydd, Prestatyn, ac Aberdaugleddau). Mae'r rhain yn rhoi trosolwg o eco-beirianneg a chynlluniau amrywiol y gellir eu hymgorffori i gynyddu'r fioamrywiaeth a geir ar strwythurau arfordirol artiffisial.

Diolch i Farina Malahide, Cyngor Sir Wexford, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Ddinbych, Ymddiriedolaeth Natur De Cymru, a Chanolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion am ganiatáu i ni osod arbrofion a byrddau gwybodaeth.


Bwrdd gwybodaeth yng Nghymru Bwrdd gwybodaeth yn Iwerddon


TAFLEN FFEITHIAU

Taflen ffeithiau am y chwistrell fôr garped

Mae’r chwistrell fôr garped (Didemnum vexillum) yn rhywogaeth forol oresgynnol sy’n dod yn wreiddiol o Japan ac sy’n dechrau ymledu ar hyd arfordiroedd Cymru ac Iwerddon. Buodd Ecostructure yn ymchwilio i boblogaethau’r chwistrell fôr garped ym Môr Iwerddon, gan archwilio a oes gan rai poblogaethau addasiadau genetig sy’n eu galluogi i ymledu’n gynt. I ddysgu mwy am y chwistrell fôr garped, edrychwch ar y daflen ffeithiau ganlynol neu lawrlwythwch hi, ac mae yna groesair hefyd er mwyn i chi roi prawf ar eich gwybodaeth!


  • Yn addas ar gyfer myfyrwyr uwchradd uwch a choleg
  • Addas ar gyfer gweithdai

Saesneg Cymraeg
ADNOD 3

Llythyrau newyddion y prosiect

Roedd llythyrau newyddion y prosiect yn adroddiadau deniadol, hawdd eu darllen, am uchafbwyntiau ymchwil Ecostructure bob blwyddyn. Isod, fe welwch ein llythyrau newyddion o 2017 - 2021 yn Gymraeg ac yn Saesneg. Dyluniwyd gan Amy Dozier o MaREI, Coleg Prifysgol Corc.

2021

Darllenwch grynodeb o’n hymchwil yn 2021.

2020

Darllenwch grynodeb o'n hymchwil yn 2020.