Ynglŷn â Phrosiect Ecostructure

Beth yw'r prosiect Ecostructure?
Roedd Ecostructure yn brosiect ymchwil Ewropeaidd rhyngddisgyblaethol a oedd ar waith rhwng 2017 a 2022 ac a fu’n archwilio atebion ym maes eco-beirianneg a bioddiogelwch ar gyfer addasu’r arfordir i’r newid yn yr hinsawdd.
Pwy fu’n ymwneud ag ef?
Daeth Ecostructure â sefydliadau ymchwil allweddol o’r naill ochr a’r llall i Fôr Iwerddon ynghyd, a oedd yn cynnwys Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Abertawe yng Nghymru, a Choleg Prifysgol Dulyn a Choleg Prifysgol Cork yn Iwerddon.
Sut y cafodd ei ariannu?
Cafodd Ecostructure ei ariannu’n rhannol gan Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru rhaglen INTERREG yr UE.

Partneriaid y Prosiect


Offer ar gyfer rheolwyr ac ymchwilwyr arfordirol

Mae Ecostructure wedi creu nifer o offer ar gyfer rheolwyr ac ymchwilwyr arfordirol. Ewch i’n tudalen Offer i weld yr adnoddau sy’n cynnwys mapiau System Gwybodaeth Ddaearyddol, offer modelu ac adnoddau cadwraeth.

Eco-beirianneg

Mae eco-beirianneg yn fodd i sicrhau bod strwythurau arfordirol artiffisial yn cael eu dylunio’n sensitif o safbwynt ecolegol.

Ymchwilwyr yn ychwanegu teils arbrofol at forglawdd yng Nghymru.

Mae adeiladu morgloddiau, torddyfroedd, grwynau a mathau eraill o amddiffynfeydd arfordirol i atal cartrefi a seilwaith rhag cael eu herydu ac i’w gwarchod rhag effeithiau’r newid yn yr hinsawdd yn golygu bod arfordir Môr Iwerddon wedi cael ei addasu’n helaeth. Mae Môr Iwerddon hefyd yn cynnig cyfleoedd enfawr i ehangu cyfleusterau cynhyrchu ynni gwynt ar y môr, ynni’r tonnau ac ynni’r llanw, a fydd yn arwain at addasu gwely’r môr drwy adeiladu amddiffynfeydd erydu o ragfur creigiog ar gyfer peilonau a cheblau angori.

Mae eco-beirianneg yn ddull gweithredu sy’n seiliedig ar fyd natur, sy’n gallu lliniaru rhai o’r effeithiau niweidiol y mae gwaith adeiladu angenrheidiol ar yr arfordir ac yn y môr yn gallu eu cael ar ecosystemau arfordirol. Mae hefyd yn gallu cyflwyno manteision eilaidd i gymunedau arfordirol ar ffurf mannau gwyrdd, dŵr gwell a chynefinoedd ar gyfer pysgod a physgod cregyn gwerthfawr, mwy o fioamrywiaeth, a nifer fwy helaeth o rywogaethau sy’n bwysig o safbwynt masnachol, megis cimychiaid. Mae Ecostructure wedi cynhyrchu tystiolaeth newydd ar gyfer dulliau gweithredu eco-beirianyddol sy’n gwella gwerth strwythurau artiffisial fel cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt morol. Gallwch ddysgu mwy ar ein tudalen Ymchwil drwy glicio ar y botwm isod.

Rheoli rhywogaethau goresgynnol

Rhagfynegi, canfod a rheoli lledaeniad rhywogaethau anfrodorol goresgynnol morol. 


Yn aml, bydd rhywogaethau estron goresgynnol yn cytrefu strwythurau arfordirol artiffisial, yn enwedig mewn porthladdoedd a marinâu neu wrth eu hymyl, lle gall y ffaith bod llawer o gychod yn mynd a dod gyflwyno rhywogaethau o bob cwr o’r byd. At hynny, gall strwythurau artiffisial megis amddiffynfeydd môr o ragfur creigiog ac amddiffynfeydd erydu tyrbinau gwynt fod yn gerrig camu ar gyfer rhywogaethau estron riffiau creigiog ar draws ardaloedd o gynefin anaddas megis tywod, mwd neu ddŵr agored.

Mae prosiect Ecostructure wedi bod yn ymchwilio i’r rôl y mae strwythurau arfordirol a morol artiffisial yn ei chwarae o safbwynt cyflwyno rhywogaethau estron i Fôr Iwerddon ac o safbwynt ymlediad y rhywogaethau estron hynny. Mae hefyd wedi codi ymwybyddiaeth o’r bygythiad y mae rhywogaethau estron goresgynnol morol yn ei gynrychioli ac wedi datblygu offer ac adnoddau sy’n galluogi ymarferwyr i atal rhywogaethau estron rhag cyrraedd, drwy gyflwyno mesurau bioddiogelwch a dulliau o ganfod rhywogaethau estron cyn eu bod yn ymsefydlu.